Roedd tîm pêl-droed Abertawe yn haeddu canlyniad gwell yn erbyn Lerpwl ddydd Sadwrn, yn ôl y capten Leon Britton.

Roedden nhw ar y blaen o 1-0 erbyn hanner amser drwy gôl gan Leroy Fer – ei bedwerydd y tymor hwn.

Ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl yn yr ail hanner drwy Roberto Firmino ac wedyn drwy James Milner o’r smotyn i ennill o 2-1.

Daeth cyfle hwyr i’r Elyrch ar ôl 93 o funudau wrth i Angel Rangel groesi i’r cwrt cosbi, ond fe aeth peniad Mike van der Hoorn heibio’r postyn.

Mae’r Elyrch heb fuddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair ers diwrnod cynta’r tymor ac mae’r pwysau ar y rheolwr Francesco Guidolin yn cynyddu, gydag adroddiadau’n awgrymu y gallai golli ei swydd dros y dyddiau nesaf.

‘Siomedig’

“Mae’n siomedig,” meddai’r capten Leon Britton. “Yn yr hanner cyntaf, ro’n i’n teimlo ein bod ni wedi chwarae’n dda iawn.

“Gwnaethon ni bwyso arnyn nhw, achosi problemau iddyn nhw ac yn haeddu mynd ar y blaen.

“Gallen ni fod wedi bod yn fwy nag 1-0 erbyn hanner amser, felly roedd dod oddi ar y cae ar ddiwedd y gêm heb bwyntiau’n rhwystredig er bod y perfformiad yn dda iawn.

“Efallai bod yr hanner cyntaf wedi effeithio arnon ni. Wnaethon ni wasgu’n galed iawn ac roedd yn gêm ddwys iawn i ni.

“Yn yr ail hanner, fe godon nhw. Ar un adeg, roedd hi’n edrych fel pe baen ni wedi goroesi’r storm, ond fe wnaeth y gic o’r smotyn ar y diwedd ein lladd ni.”

Ychwanegodd Britton fod y chwaraewyr yn cefnogi’r rheolwr Francesco Guidolin.