"Cym on, Awstria!" meddai Chris Coleman
Mae’r ymosodwr Marc Janko wedi cael ei gynnwys yng ngharfan Awstria i herio Cymru yng ngêm ragbrofol Cwpan y Byd yn Fienna ar Hydref 6.
Roedd Marc Janko, sy’n chwarae i Basel, wedi anafu ei forddwyd tra’n chwarae i’w glwb bythefnos yn ôl a dydy e ddim wedi chwarae ers hynny.
Roedd disgwyl y byddai’r anaf i Janko yn golygu rhoi cap cyntaf i Deni Alar, ond mae Marcel Koller wedi cadw ffydd gyda’r un garfan unwaith eto wrth iddyn nhw hefyd baratoi i wynebu Serbia.
Dywedodd Marcel Koller ei fod yn gyndyn o roi cyfle i chwaraewr newydd mewn gêm mor bwysig.
Carfan Awstria: Robert Almer, Andreas Lukse, Ramazan Oezcan; Aleksandar Dragovic, Martin Hinteregger, Florian Klein, Valentino Lazaro, Sebastian Proedl, Stefan Stangl, Markus Suttner, Kevin Wimmer; David Alaba, Marko Arnautovic, Julian Baumgartlinger, Martin Harnik, Stefan Ilsanker, Zlatko Junuzovic, Marcel Sabitzer, Louis Schaub, Alessandro Schoepf (Schalke); Michael Gregoritsch, Lukas Hinterseer, Marc Janko