Ray Reardon (Llun: Wikipedia)
Mae tlws snwcer wedi’i ail-enwi er mwyn talu teyrnged i un o fawrion y gamp yng Nghymru, Ray Reardon.
Enillodd Reardon Bencampwriaeth y Byd yn 1970, a thlws cystadleuaeth Agored Cymru bedair gwaith yn olynol rhwng 1973 a 1976, ac unwaith eto yn 1978.
Mae’r awdurdodau snwcer wedi mynd ati i ad-drefnu’r cystadlaethau agored yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon fel rhan o Gyfres y Gwledydd Cartref.
Mae’r tlysau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn talu teyrnged i Steve Davis ac Alex Higgins, ac mae Ray Reardon wedi dweud ei bod hi’n “fraint” cael ei gysylltu â’r tlws Cymreig,
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd, Chwefror 13-19.
Deilydd y tlws ar hyn o bryd yw Ronnie O’Sullivan, sy’n cael ei hyfforddi gan Ray Reardon.