Mae cadw gemau criced yn Abertawe yn parhau’n fwriad “yr un mor gryf ag erioed” meddai Cadeirydd clwb cefnogwyr Orielwyr San Helen wrth golwg360.
Gorchwyl Orielwyr San Helen, meddai John Williams, yw sicrhau parhad criced yn Abertawe a De Orllewin Cymru – “yng nghartref ysbrydol Morgannwg”.
Ond gyda llai o bwyslais erbyn hyn ar griced pedwar diwrnod a mwy o fynd ar gemau ugain pelawd, a nifer cynyddol o gemau’n cael eu cynnal yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd, mynd yn fwy anodd y mae gwaith yr Orielwyr erbyn hyn.
Dywedodd John Williams wrth golwg360: “Cartref ysbrydol Morgannwg yw Abertawe. Ni moyn cadw hwnnw, mewn ysbryd, ta beth. Mae’n mynd yn fwy anodd gan fod pawb eisiau mynd i glatsio’r bêl wen.
“Mae magwrfa yn y criced yn San Helen fel oedd e yn y pêl-droed yn Abertawe slawer dydd. Pobol fel Tony Lewis, Alan Jones, Eifion Jones, Jeff Jones, Simon Jones, David Hemp, Robert Croft, Greg Thomas – gobeithio bo ni’n dod nôl i sefyllfa fel’na, falle gewn ni fynd i Bontarddulais a chodi’r to. O’dd e’n uchelgais i ddod i Abertawe.”
Angerdd a brwdfrydedd
Fe fu John Williams, un o sylfaenwyr yr Orielwyr yn 1972, wrthi’n trefnu’r cinio blynyddol ers 43 o flynyddoedd bellach, ac mae’n dal i fod yn llawn brwdfrydedd ac angerdd am yr achos.
“Mae raid i ti gael y brwdfrydedd i’w wneud e,” meddai. “Os oes gyda ti frwdfrydedd a bo ti moyn neud e, mae’n dod yn weddol rwydd wedyn. Mae’n stress ambell waith! Bore piau hi. Maen nhw’n tynnu ’nghoes i ym Morgannwg bo nhw’n derbyn e-bost am bump o’r gloch y bore! Mae’n wenwyn i rai pobol godi mor fore! Ond paid â gofyn i fi weithio ar ôl 5.30!”
Er cymaint mae John Williams yn ei wneud fel unigolyn i hybu criced yn y de-orllewin, mae’n cydnabod na fyddai’r cyfan yn bosibl heb gefnogaeth unigolion a’r ardal leol.
“Mae pobol yn dod yn rheolaidd, mae pobol yn yr ardal yn ein cefnogi ni. Flwyddyn ar ôl blwyddyn am ddeugain mlynedd, rhai ohonyn nhw. Mae popeth yn dibynnu ar arian nawr yn anffodus.
“Mae magwrfa yn y criced yn San Helen fel oedd e yn y pêl-droed yn Abertawe slawer dydd. Pobol fel Tony Lewis, Alan Jones, Eifion Jones, Jeff Jones, Simon Jones, David Hemp, Robert Croft, Greg Thomas – gobeithio bo ni’n dod nôl i sefyllfa fel’na, falle gewn ni fynd i Bontarddulais a chodi’r to. O’dd e’n uchelgais i ddod i Abertawe.”