Dydy Francesco Guidolin ddim yn teimlo’r pwysau er bod ei swydd fel rheolwr tîm pêl-droed Abertawe yn y fantol.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod cyfarwyddwyr yr Elyrch eisoes wedi dechrau chwilio am reolwr newydd, gyda Ryan Giggs a Gianfranco Zola ymhlith yr enwau sydd wedi cael eu crybwyll i olynu’r Eidalwr.
Dydy’r Elyrch ddim wedi ennill yn yr Uwch Gynghrair ers iddyn nhw guro Burnley ar ddiwrnod cynta’r tymor.
Yn ystod yr wythnos diwethaf, maen nhw wedi colli yn erbyn Southampton a Man City ddwywaith, gan gynnwys unwaith yng nghwpan yr EFL.
Gwrthwynebwyr nesaf Abertawe yw Lerpwl ddydd Sadwrn nesaf, sy’n golygu ei bod hi’n debygol y bydd y pwysau ar Guidolin yn parhau i gynyddu.
Dim ond pedwar pwynt sydd gan Abertawe ar ôl chwe gêm.
Ond dydy Guidolin ddim wedi trafod ei ddyfodol gyda’r cadeirydd Huw Jenkins, meddai.
“Dw i ddim yn gwybod beth mae’r perchnogion na’r cadeirydd yn ei feddwl. I fi, dydy e ddim yn bwysig.
“Yn hytrach, mae’n bwysig gweithio gyda fy chwaraewyr a chael perthynas dda gyda nhw.”
Serch hynny, mae’r Eidalwr wedi cael sawl ffrae â’i chwaraewyr dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys Neil Taylor a Ki Sung-yueng.
Ychwanegodd: “Dw i ddim wedi siarad â’r cadeirydd. Dw i ddim yn teimlo dan bwysau. Dyna fy swydd.
“Yn y cyfnod hwn, dydy ein gemau ddim yn hawdd. Dydy hi ddim yn amser da i ni o ran canlyniadau ond [yn erbyn Man City] fe welais i fy chwaraewyr yn tyfu i fyny.”