Mae rheolwr Stoke, Mark Hughes wedi canmol dylanwad chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen ar y tîm y tymor hwn.
Sgoriodd Allen ei gôl gyntaf i’r clwb ar ôl 73 munud o’r gêm yn erbyn West Brom ddydd Sadwrn, a ddaeth i ben yn gyfartal 1-1.
Awgrymodd Allen, un o sêr Cymru yn Ewro 2016, ar ôl symud i ganolbarth Lloegr ei fod yn awyddus i chwarae’n rheolaidd.
Dywedodd Mark Hughes: “Dw i’n credu ei fod e wedi gadael Lerpwl gan ei fod e am chwarae bob wythnos. Ry’n ni’n rhoi’r cyfle hwnnw iddo fe ac ym mhob gêm mae e’n chwarae, mae e’n cael dylanwad.
“Mae e wedi bod yn ddisglair i ni’r tymor hwn – yr un sydd wedi bod yn cyrraedd y lefelau ry’n ni’n disgwyl ganddo fe.
“Efallai bod rhai o’r bois yn cyrraedd rhyw lefel erbyn hyn, ond dyn ni erioed wedi cael problem gyda Joe yn nhermau ei berfformiad.
“Mae e wedi dechrau’n wych ac wedi bod yn ardderchog ers iddo fe gerdded drwy’r drws.”
Mae Stoke bellach yn bedwerydd ar bymtheg yn yr Uwch Gynghrair ar ôl codi o’r gwaelod brynhawn ddoe.