Mae prif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Alan Curtis wedi dweud bod marwolaeth Mel Charles yn “golled drist iawn, iawn” i Abertawe ac i’r byd pêl-droed.
Bu farw’r cyn-chwaraewr 81 oed mewn cartref gofal yn Abertawe nos Sadwrn.
Chwaraeodd mewn 233 o gemau i’r Elyrch, gan ennill 31 o gapiau dros Gymru.
Dywedodd Curtis wrth wefan Clwb Pêl-droed Abertawe: “Roedd Mel yn rhan o deulu chwaraeon enfawr yn Abertawe.
“Nid yn unig roedd e’n bêl-droediwr uchel iawn ei barch, roedd e hefyd yn gymeriad gwych oedd yn mwynhau bywyd i’r eithaf. Roedd pawb wrth eu bodd yn ei gwmni.
“Does dim amheuaeth y bydd e’n cael ei gofio fel un o chwaraewyr gorau erioed Abertawe a Chymru ac fe fydd e nawr yn ymuno â’r tîm pêl-droed gwych hwnnw yn y nefoedd.”
Ychwanegodd un o’i gyfoedion ac un arall o drigolion Abertawe, Mel Nurse: “Cawson ni ein magu gyda’n gilydd ynghyd â’i frawd John.
“Aethon ni i ysgolion Cwmbwrla a Threfansel. Wnes i ei ddilyn e ar y cae ac oddi arno. Bydda i’n gweld ei eisiau fe.
“Roedd e’n gymeriad mawr – mae Abertawe wedi colli un o’i mawrion.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran y clwb: “Ry’n ni’n flin iawn o glywed am golli un o fawrion y clwb a gŵr bonheddig.”
Trist clywed fod Mel Charles, a chwaraeodd dros Gymru, Abertawe, Caerdydd a Phorthmadog wedi marw. O bosib, chwaraewr enwoca’r Port erioed.
— Simon Brooks (@SeimonBrooks) September 25, 2016