Mae’r cyn-bêldroediwr Mel Charles wedi marw’n 81 oed.
Fe fu’n byw mewn cartref gofal yn Abertawe ers sawl blwyddyn.
Chwaraeodd Charles, brawd John Charles, mewn 233 o gemau i Abertawe, gan ennill 31 o gapiau dros Gymru, ac roedd yn aelod o amddiffyn Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn 1958.
Roedd ei fab Jeremy hefyd wedi chwarae i Abertawe.
Gyrfa
Ar ôl cyfnod yn brentis gyda Leeds, fe ddaeth yn chwaraewr proffesiynol gydag Abertawe yn 1952, gan dreulio saith tymor yn ninas ei febyd.
Symudodd i Arsenal am £42,750 yn 1959 ond fe gafodd ei werthu i Gaerdydd dair blynedd yn ddiweddarach am £28,500 yn dilyn sawl tymor o anafiadau.
Roedd yn aelod o garfan Caerdydd pan enillon nhw Gwpan Cymru yn 1964, ac fe symudodd i Borthmadog y tymor canlynol.
Dychwelodd i’r Gynghrair Bêl-droed gyda Port Vale yn 1966 cyn symud yn ôl i Gymru unwaith eto, gan dreulio cyfnodau gyda Chroesoswallt a Hwlffordd.
Ni chafodd gerdyn melyn na choch erioed yn ystod ei yrfa, a fe oedd y trydydd Cymro erioed i sgorio pedair gôl mewn gêm (yn erbyn Gogledd Iwerddon).
Sgoriodd e chwe gôl dros Gymru.