Preston 3–0 Caerdydd            
                                                          

Llithrodd Caerdydd i’r unfed safle ar hugain yn nhabl y Bencampwriaeth ar ôl colli o dair gôl i ddim yn erbyn Preston North End yn Deepdale nos Fawrth.

Ildiodd yr Adar Gleision ddwy waith cyn yr egwyl cyn i gôl hwyr Jordan Hugill gwblhau’r sgorio i’r tîm cartref.

Rheolodd Preston trwy gydol y gêm ac aethant ar y blaen yn haeddiannol ddeg munud cyn yr egwyl wrth i Tom Clarke rwydo yn dilyn camgymeriad gan Ben Wilson yn y gôl i Gaerdydd. Roedd hi’n ddwy cyn hanner amser diolch i ergyd isel Callum Robinson.

Roedd yr ymwelwyr fymryn yn well ar ôl troi ond Preston a oedd yn edrych fwyaf tebygol o sgorio o hyd.

Bu bron iddynt wneud hynny pan darodd cic rydd Paul Gallagher y trawst ac fe ddaeth y drydedd gôl yn y diwedd gydag ergyd dda Hugill o bellter ddau funud cyn y naw deg.

Mae’r canlyniad yn codi Preston dros Caerdydd yn y tabl a dim ond gwahaniaeth goliau sydd bellach yn gwahanu’r Adar Gleision a safleoedd y gwymp.

.

Preston

Tîm: Lindegaard, Vermijl, Clarke, Baptiste, Cunningham, Robinson (Makienok 86’), Gallagher, Browne, McGeady, Hugill (Johnson 90’), Doyle (Humphrey 77’)

Goliau: Clarke 36’, Robinson 41, Hugill 88’

Cerdyn Melyn: Robinson 79’

.

Caerdydd

Tîm: Wilson, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Harris, Huws (Wittingham 45’), Gunnarsson, Ralls (Gounongbe 70’), John (Noone 45’), Pilkington, Lambert

Cardiau Melyn: Wilson 26’, Lambert 55’, Noone 62’, Pilkington 67’

.

Torf: 9,216