Mae Swydd Essex wedi ennill ail adran y Bencampwriaeth ar ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Morgannwg yn Chelmsford.

Roedd angen chwe phwynt ar y Saeson i sicrhau eu bod nhw’n codi’r tlws ar ddiwedd yr ornest hon, ac fe ddaeth y pwynt tyngedfennol wrth iddyn nhw gyrraedd 250 yn eu batiad cyntaf.

Y capten Ryan ten Doeschate arweiniodd ei dîm yn ystod y batiad, wrth iddo daro 109 heb fod allan, a Swydd Essex yn 275-6 erbyn diwedd y dydd. Hwn oedd ei bedwerydd canred yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Ychwanegodd ten Doeschate ac Adam Wheater 100 o rediadau at y cyfanswm am y chweched wiced, ac mae ten Doeschate a James Foster wedi ychwanegu 90 am y seithfed wiced. Mae gan Forgannwg flaenoriaeth o ddeg rhediad ar hyn o bryd, ac mae gan Swydd Esex bedair wiced yn weddill o’u batiad cyntaf.

Dydy Swydd Essex ddim wedi chwarae yn adran gynta’r Bencampwriaeth ers 2010, pan ddychwelon nhw’n syth i’r ail adran ar ôl un tymor.

Ar y diwrnod cyntaf, gwnaeth Kiran Carlson, 18, sicrhau mai fe yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred i Forgannwg, gan dorri record Mike Llewellyn yn erbyn Prifysgol Caergrawnt yn 1972.