Cei Connah 1–1 Y Bala             
                                                         

Daliodd deg dyn y Bala eu gafael ar gêm gyfartal yn erbyn Cei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn.

Roedd gôl gynnar Mike Hayes wedi rhoi’r ymwelwyr ar y blaen cyn i Dave Thompson gael ei anfon oddi ar y cae ar ddechrau’r ail hanner. Bu bron iddynt ddal eu gafael ond llwyddodd Cei Connah i gipio pwynt diolch i gic o’r smotyn Matty Williams chwarter awr o’r diwedd.

Hanner Cyntaf

Prinder goliau oedd problem fwyaf y Bala cyn y gêm hon ond aethant ar y blaen wedi dim ond tri munud yn erbyn Cei Connah, Mike Hayes yn gorffen yn dda ar yr hanner foli wedi i Conall Murtagh benio’r bêl i’w lwybr.

Prin a oedd y cyfleoedd yn y ddau ben o hynny tan hanner amser ond dylai’r ymwelwyr fod wedi cael cic o’r smotyn wedi i James Owen lawio yn y cwrt cosbi.

Ail Hanner

Roedd yr ail hanner yn dipyn mwy bywiog. Dylai Mike Wilde fod wedi unioni i’r tîm cartref bedwar munud wedi’r ail ddechrau ond methodd ddau gyfle gwych yn y cwrt chwech, Alex Lynch yn arbed y cyntaf a’r ail yn mynd heibio’r postyn gan y blaenwr.

Funud yn unig wedi hynny roedd y Bala i lawr i ddeg dyn diolch i ben elin gan Dave Thompson a gafodd ei gweld gan y dyfarnwr cynorthwyol a fawr neb arall. Bu rhaid i’r Bala amddiffyn yn ddewr wedi hynny wrth i Gei Connah bwyso a phwyso yn erbyn y deg dyn.

Methodd Les Davies gyfle euraidd i’r tîm cartref ond gwastraffodd Ryan Edwards gyfle cystal i ddyblu mantais y Bala yn y pen arall hefyd, cic hosan gyda dim ond y golwr i’w guro o chwe llath.

Roedd y bêl yn rhwyd y Bala yn fuan wedyn ond roedd y dyfarnwr wedi gweld trosedd gan Wilde wrth y postyn agosaf cyn i Les rwydo wrth y postyn cefn.

Fu dim rhaid i’r Nomadiaid aros yn hir cyn unioni serch hynny wrth i’r eilydd, Matty Williams, rwydo o’r smotyn yn dilyn trosedd Ryan Valentine ar Wes Baynes yn y cwrt cosbi.

Gwrthymosod oedd unig obaith y Bala am gôl a bu bron iddynt gael un wrth i rediad Edwards arwain at gyfle i Hayes ddeuddeg munud o’r diwedd ond llwyddodd Danby yn y gôl i arbed ei dîm wrth iddi aros yn gyfartal tan y diwedd.

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Disney, Harrison, Field (Williams 72’), Davies, Morris, Woolfe, Owen (Payne 59’), Baynes, Short (Smith 49’), Wilde

Gôl: Williams [c.o.s.] 75’

Cardiau Melyn: Harrison 29’, Disney 65’

.

Y Bala

Tîm: Lynch, Valentine, Stephens, S. Jones, Owens, Murtagh, Connolly, Wade (Thompson 40’), Burke (Edwards 60’), Venables, Hayes (M. Jones 84’)

Gôl: Hayes 3’

Cerdyn Melyn: Murtagh 40’

Cerdyn Coch: Thompson 50’

.

Torf: 166