Maidstone 2–2 Wrecsam     
                                                           

Bu rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn wrth iddynt deithio i Stadiwm Gallagher i herio Maidstone.

Wedi mynd ar ei hôl hi i gôl Ben Greenhalgh fe darodd Wrecsam yn ôl gyda dwy gôl gan Callum Powell, ond cipiodd y tîm cartref bwynt gyda gôl yr eilydd, Liam Enver-Marum.

Ugain munud a oedd ar y cloc pan roddodd Greenhalgh Maidstone ar y blaen gyda chic rydd ond roedd yr ymwelwyr o ogledd Cymru’n gyfartal erbyn yr egwyl diolch i gôl gyntaf Powell.

Ychwanegodd Powell ei ail hanner ffordd trwy’r ail hanner ond methodd y Dreigiau â chadw eu gafael ar y tri phwynt wrth i Enver-Marum unioni pethau yn y chwarter awr olaf.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl wedi wyth gêm.

.

Maidstone

Tîm: Worgan, Mills, Coyle, Fisher, Lokko, Paxman, Sweeney, Evans (Hall-Johnson 79’), Greenhalgh (Enver-Marum 71’), Murphy (Mavila 67’), Taylor

Goliau: Greenhalgh 21’, Enver-Marum 77’

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, Rooney, Newton, Tilt, Barry (Nortey 46’), Harrad (Bakare 58’), Rutherford, Carrington, Bencherif, Powell, Edwards

Goliau: Powell 38’, 66’

Cerdyn Melyn: Rooney 85’

.

Torf: 2,550