Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi colli’r cyfle i arwyddo’r ymosodwr Enner Valencia ar fenthyg o West Ham.

Mae chwaraewr rhyngwladol Ecwador wedi penderfynu symud ar fenthyg i Everton am dymor.

Symudodd Valencia i West Ham o Pachuca ym Mecsico am £12 miliwn ddwy flynedd yn ôl.

Ond mae Simone Zaza, Ashley Fletcher a Jonathan Calleri yn cael eu dewis o’i flaen erbyn hyn.

Roedd cadeirydd Huw Jenkins wedi gobeithio denu un neu ddau chwaraewr ar fenthyg cyn i’r ffenest drosglwyddo gau am 11 o’r gloch, ac mae’r Press Association yn adrodd bod Valencia wedi teithio i dde Cymru cyn penderfynu mynd i Everton.