Mae Dave Edwards allan o garfan Cymru i herio Moldofa yng ngêm ragbrofol Cwpan y Byd nos Lun nesaf.

Man anaf sydd gan Edwards, ac mae Shaun MacDonald o Wigan yn cymryd ei le.

Roedd Cymru eisoes yn paratoi ar gyfer y gêm heb Aaron Ramsey a Jonny Williams.

Ond mae disgwyl i Joe Ledley a Wayne Hennessey fod yn holliach ar gyfer y gêm.