Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi arwyddo ymosodwr Caerdydd Rhys Healey ac ymosodwr QPR, Reece Grego-Cox ar fenthyg tan fis Ionawr.

Roedden nhw eisoes wedi arwyddo amddiffynnwr canol Newcastle, Kyle Cameron ar fenthyg yn gynharach ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo ddiweddaraf.

Treuliodd Healey gyfnod ar fenthyg gyda Dundee United yn 2015-16, tra bod Grego-Cox wedi chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac wedi cynrychioli tîm dan 21 Gweriniaeth Iwerddon.