Mae Ipswich wedi arwyddo chwaraewr canol cae Cymru, Jonny Williams ar fenthyg o Crystal Palace am dymor.

Dyma bedwerydd cyfnod Williams gyda’r clwb, ac mae’n symud ar ôl methu â sicrhau ei le yn nhîm Palace.

Symudodd Williams i Ipswich am y tro cyntaf ddechrau 2014, a chafodd e ddau gyfnod arall ar fenthyg yn ystod tymor 2014-15.

Ond prin fu ei gyfleoedd gyda Crystal Palace gan fod ganddyn nhw Yohan Cabaye, James McArthur, Jordan Mutch, Chung-yong Lee a Joe Ledley yn y garfan.

Mae Williams allan o garfan Cymru ar hyn o bryd oherwydd anaf i’w ffêr, ond mae disgwyl iddo fe fod yn holliach erbyn mis Hydref.

Roedd Ipswich eisoes wedi arwyddo’r Cymro Tom Lawrence ar fenthyg ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo bresennol, sy’n cau am 11 o’r gloch heno.