Mae chwaraewr canol cae Cymru, Tom Lawrence wedi croesawu’r cyfle i symud ar fenthyg i Ipswich o Gaerlŷr.
Prin fu cyfleoedd Lawrence, 22, gyda phencampwyr yr Uwch Gynghrair ac fe ddenodd sylw nifer o glybiau cyn cadarnhau ei drosglwyddiad i Portman Road.
Mae Lawrence wedi’i enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer eu gêm ragbrofol Cwpan y Byd gyntaf yn erbyn Moldofa nos Lun nesaf.
Dywedodd Lawrence: “Mae Caerlŷr yn arwyddo tipyn o chwaraewyr felly wnes i siarad â phobol yn y clwb a dweud wrthyn nhw ’mod i’n credu mai gwell fyddai i fi fynd allan ar fenthyg a chael y cyfle i chwarae pêl-droed yn rheolaidd.”
Symudodd Lawrence i Gaerlŷr o Man U yn 2014.
Ychwanegodd: “Dw i’n credu bod gan nifer o glybiau ddiddordeb ond mae Ipswich yn glwb sydd fel pe baen nhw bob amser tua brig y Bencampwriaeth.
“Dw i am fod gyda chlwb sydd ag uchelgais ac sydd am wthio am ddyrchafiad, a gobeithio y gallwn ni wneud hynny yma.”
Mae gan Lawrence gryn brofiad o’r Bencampwriaeth yn dilyn cyfnodau ar fenthyg gyda Blackburn a Chaerdydd.