Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi arwyddo amddiffynnwr Newcastle, Kyle Cameron ar fenthyg tan fis Ionawr.

Mae Cameron yn aelod o garfan dan 19 yr Alban, ac mae’n amddiffynnwr canol, de neu chwith.

Mae rheolwr Casnewydd, Warren Feeney wedi croesawu’r cyfle i arwyddo “chwaraewr corfforol”.

Treuliodd Cameron gyfnod ar fenthyg yng Nghaerefrog y tymor diwethaf.

Mae Casnewydd yn ddeunawfed yn yr Ail Adran ar hyn o bryd.