Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n ystyried gwneud cais i ddod ag ymosodwr West Ham, Enner Valencia ar fenthyg i Stadiwm Liberty, yn ôl adroddiadau.

Mae Valencia, 26, wedi chwarae mewn chwe gêm i’r Hammers y tymor hwn.

Fe gostiodd £12 miliwn ddwy flynedd yn ôl wrth iddo symud o Pachuca ym Mecsico, ac mae ganddo fe dair blynedd yn weddill o’i gytundeb.

Mae’n cael ei ystyried fel chwaraewr all roi terfyn ar ddiffyg goliau’r Elyrch y tymor hwn, er bod y clwb eisoes wedi arwyddo Fernando Llorente a Borja Baston.

Mae cadeirydd y clwb, Huw Jenkins wedi dweud ei fod yn awyddus i ddenu wynebau newydd i’r clwb cyn i’r ffenest drosglwyddo gau heno.