Fe fydd sylw’r byd pêl-droed yng Nghymru ar Hal Robson-Kanu ddydd Mercher wrth i’r ffenest drosglwyddo gau am 11 o’r gloch y nos.

Mae Robson-Kanu, un o sêr Cymru yn Ewro 2016, yn dal heb glwb ar ôl penderfynu gadael Reading ar ôl naw tymor ddiwedd y tymor diwethaf.

Sgoriodd e 24 o goliau mewn 198 o gemau i’r clwb, ond fe ddaeth y byd i wybod amdano fe wrth i’w gôl yn erbyn Gwlad Belg gael ei henwi’n gôl orau’r gystadleuaeth gan y BBC.

Ond ar drothwy ymgyrch Cwpan y Byd, mae rheolwr Chris Coleman wedi awgrymu y byddai’n ystyried gollwng y chwaraewr 27 oed pe na bai e’n llwyddo i ddod o hyd i glwb newydd.

Ymhlith y clybiau sydd wedi cael eu cysylltu â Robson-Kanu dros yr wythnosau diwethaf mae Burnley, Middlesbrough a Southampton.

Hull ddaeth agosaf at ei arwyddo cyn i’r rheolwr Steve Bruce ymddiswyddo’n annisgwyl, ac roedd hi’n ymddangos wedyn bod y trafodaethau wedi dod i ben.

Wrth i Abertawe gael ei brynu gan ddau Americanwr, roedd enw Robson-Kanu yn cael ei gysylltu â’r Elyrch wrth iddyn nhw geisio prynu chwaraewr all sgorio goliau – ond maen nhw bellach wedi prynu Fernando Llorente a Borja Baston.

Mae lle i gredu bellach fod Watford a West Ham hefyd yn awyddus i’w arwyddo.

Nid dim ond timau’r Uwch Gynghrair sydd wedi cael eu cysylltu â Robson-Kanu, gyda Sevilla ac Atletico Madrid hefyd wedi dangos diddordeb ynddo.

Gyda gêm Cymru yn erbyn Moldofa ychydig ddiwrnodau i ffwrdd, fe fydd angen i Robson-Kanu ddewis clwb yn gyflym cyn i’r ffenest gau heno, a phrofi ei fod yn dal yn deilwng o’i le yn nhîm Chris Coleman.