Fe fydd tlws pêl-droed Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Caerdydd ddydd Iau a dydd Gwener yr wythnos hon.

Bydd rownd derfynol cystadleuaeth y dynion a’r merched yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddiwedd y tymor hwn.

Bydd y tlws ar gael i’w weld ym mhrif neuadd yr amgueddfa yn rhad ac am ddim rhwng 10yb a 5yp ar y ddau ddiwrnod.

Ddydd Iau, cafodd enwau’r timau eu tynnu o’r het ym Monaco ar gyfer y gystadleuaeth, ac mae un o fawrion Cymru, Ian Rush a rheolwraig tîm merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cael eu henwi’n lysgenhadon ar gyfer y gystadleuaeth.

Hon fydd cystadleuaeth Cynghrair y Pencampwyr rhif 62, a’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Fehefin 3, pan fo disgwyl i fwy na 200 miliwn o bobol mewn dros 200 o wledydd wylio’r gêm ar y teledu.

Mae disgwyl hefyd y bydd mwy na 52,000 o gefnogwyr yn gwneud defnydd o’r ffanbarth fydd yn cael ei chreu ar gyfer y gêm yn y brifddinas.

Bydd rownd derfynol cystadleuaeth y merched ar Fehefin 1.

Taith yng Nghymru

Bydd y ddau dlws yn mynd ar daith o amgylch Cymru dros y naw mis nesaf cyn i ffeinal y dynion gael ei chynnal yn y stadiwm genedlaethol – fydd ddim yn dwyn enw’r Principality oherwydd rheolau’r gystadleuaeth ar noddi caeau.

Bydd rownd derfynol y merched yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae disgwyl i’r tlysau fynd ar daith i’r gogledd fis nesaf.

Wrth i Gymru groesawu mawrion Ewrop i’r brifddinas, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dweud mai ymgysylltu â’r genedl gyfan, trefnu’r profiad gorau i bawb a chreu gwaddol fydd ei phrif amcanion dros y flwyddyn nesaf.

Manteision economaidd i Gymru

Mae disgwyl i’r gystadleuaeth roi hwb ariannol o fwy na £45 miliwn i Gaerdydd a’r cyffiniau, ac fe fydd modd gwneud cais am docynnau fis Mawrth y flwyddyn nesaf, gyda’r rhan fwyaf o docynnau’n mynd i gefnogwyr y ddau dîm sy’n cyrraedd y rownd derfynol.

Fel rhan o’r ymgyrch i hysbysebu’r digwydd, bydd mwy na 1,300 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan mewn rhaglen addysg am y gystadleuaeth.

Y grwpiau

Grŵp A: Paris Saint-Germain, Arsenal, Basel, Ludogorets

Grŵp B: Benfica, Napoli, Dynamo Kyiv, Besiktas

Grŵp C: Barcelona, Man City, Mönchengladbach, Celtic

Grŵp D: Bayern München, Atletico Madrid, PSV Eindhoven, Rostov

Grŵp E: CSKA Moscow, Bayer Leverkusen, Spurs, Monaco

Grŵp F: Real Madrid, Borussia Dortmund, Sporting CP, Legia Warsaw

Grŵp G: Caerlŷr, Porto, Club Brugge, Kobenhavn

Grŵp H: Juventus, Sevilla, Lyon, Dinamo Zagreb