Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo’r amddiffynnwr canol 22 oed, Alfie Mawson o Barnsley am ffi sydd heb ei gadarnhau.

Mae Mawson, sydd wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd, yn cael ei ystyried fel un a all lenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan y capten Ashley Williams, yn dilyn ei drosglwyddiad i Everton ddechrau’r tymor.

Mawson yw’r chweched chwaraewr newydd i ymuno â’r Elyrch yn ystod y ffenest drosglwyddo bresennol, ac mae disgwyl i ragor o wynebau newydd gyrraedd Stadiwm Liberty cyn i’r ffenest gau am 11 o’r gloch heno.

Chwaraeodd Mawson mewn 58 o gemau i Barnsley y tymor diwethaf wrth iddyn nhw ennill Tlws y Gynghrair Bêl-droed a rowndd derfynol gemau ail gyfle’r Adran Gyntaf – sgoriodd Mawson saith gôl yn ystod y tymor.

Fe dreuliodd e gyfnod ar fenthyg yn Wycombe y tymor blaenorol, wrth iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran.

Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Reading cyn symud i Brentford yn 2010, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg yn Maidenhead, Luton a Welling.