Ni fydd chwaraewr canol cae Cymru, Jonny Williams ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Moldofa yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar Fedi 5, yn ôl adroddiadau.
Mae Williams, oedd yn aelod o garfan Cymru yn Ewro 2016, wedi anafu ei ffêr.
Mae disgwyl hefyd na fydd e ar gael ar gyfer y gemau yn erbyn Awstria a Georgia ym mis Hydref.