Leroy Fer yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant Abertawe yn Burnley (Llun: Adam Davy/PA)
Mae Leroy Fer wedi disgrifio’r “teimlad braf” a gafodd wrth sgorio’i gôl gyntaf i Abertawe ar ddiwrnod cyntaf tymor newydd yn yr Uwch Gynghrair.

Sgoriodd Fer, a symudodd i’r Elyrch yn barhaol o QPR dros yr haf, ar ôl 82 o funudau i sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm oddi cartref yn Burnley, sydd newydd ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth.

Ar ôl y gêm, roedd Fer yn llawn canmoliaeth ar gyfer y cefnogwyr.

“Dw i wrth fy modd gyda’r cefnogwyr yma. Roedden nhw’n canu fy enw’n syth ar ôl i fi gyrraedd y clwb y tymor diwethaf, oedd yn wych i fi.

“Gwnaeth sgorio’r gôl fuddugol yma roi teimlad braf i fi o fod wedi’u gwneud nhw’n hapus. Gobeithio y galla i sgorio rhagor o goliau nawr.”

Rhwydodd Fer o’r cwrt cosbi ar ôl i beniad Fernando Llorente o groesiad Jefferson Montero gael ei arbed.

Hull, un arall o’r timau newydd, fydd gwrthwynebwyr Abertawe ddydd Sadwrn nesaf wrth iddyn nhw chwarae eu gêm gyntaf yn Stadiwm Liberty, ac mae Fer yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth gyntaf.

“Dyma’r dechreuad perffaith. Do, fe sgoriais i fy ngôl gyntaf i Abertawe, ond y peth pwysig oedd ein bod ni wedi sicrhau’r triphwynt, felly dw i’n hapus iawn.

“Roedd yn gêm bwysig i ni’n amddiffynnol oherwydd eu bod nhw wedi chwarae llawer o beli hir ac mae Sam Vokes yn dda iawn yn yr awyr i fflicio ymlaen i Andre Gray.

“Gwnaeth Fab (Lukasz Fabianski) nifer o arbediadau gwych i ni hefyd.”

“Dyma’r fuddugoliaeth roedden ni am ei chael – ac angen ei chael.”