Becky James fydd yn hawlio’r sylw ddydd Sul wrth iddi geisio cymhwyso ar gyfer rownd wyth ola’r ras wib ar ei beic.
Bydd y Gymraes o’r Fenni, sy’n cystadlu am 8 o’r gloch, yn gobeithio ychwanegu at y fedal arian enillodd hi yn y keirin ddydd Sadwrn.
Pe bai hi’n llwyddo, bydd hi’n cystadlu yn rownd yr wyth olaf am 2 o’r gloch brynhawn dydd Llun.
Yn y keirin nos Sadwrn, gwnaeth James orffen y ras mewn 11.25 eiliad, a dywedodd un o fawrion y byd seiclo, Vicky Pendleton fod ei pherfformiad yn “anhygoel”.
Bydd Hannah Mills a Chris Grube ill dau yn cystadlu yn yr hwylio, dosbarth 470 yn ystod y prynhawn.
Bydd Mills yn cystadlu am 5.05yp a Grube am 5.15yp.
Hannah Mills
Roedd siom i Mills, sy’n hanu o Gaerdydd ac sy’n bedwerydd ar restr detholion y byd, yn ystod Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 wrth i’r tîm orffen yn olaf ond un yn Weymouth, gan gipio medal arian yn y pen draw.
Ond yr un flwyddyn, hi oedd pencampwraig y byd yn nosbarth 470, a hi unwaith eto yw’r ffefryn i ennill yn Rio.
Chris Grube
Cyfnod digon ansicr gafodd Grube, 30 o Gaer, wrth iddo baratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio.
Ar ôl ei siom o fethu â chyrraedd y Gemau Olympaidd yn Llundain bedair blynedd yn ôl, bu bron iddo golli ei gyfle unwaith eto’r tro hwn ar ôl colli ei le yng ngharfan y Gymdeithas Hwylio Brenhinol yn 2014.
Ond ddechrau’r flwyddyn, daeth yn bartner i Luke Patience, ac maen nhw bellach yn drydydd ar restr detholion y byd.