Mae tîm pêl-droed Cei Connah allan o Gynghrair Europa ar ôl colli nos Iau yn Y Rhyl o 2-1 yn erbyn FK Vojvodina o Serbia.

Roedd dwy gôl gan Dejan Meleg yn ddigon i sicrhau bod Vojvodina yn mynd drwodd i’r drydedd rownd ragbrofol o 3-1 dros y ddau gymal.

Cic rydd o 25 llathen oedd y gyntaf ar ôl saith munud, ac fe ddyblodd Meleg fantais ei dîm o’r smotyn wedi’r hanner, cyn i Michael Wilde sicrhau gôl gysur i’r Cymry.

Roedd y Cymry eisoes ar ei hôl hi o 1-0 ar ôl y cymal cyntaf.

Mae’r canlyniad yn golygu nad oes yna’r un tîm o Gymru ar ôl yn Ewrop, ar ôl i’r Seintiau Newydd fynd allan o Gynghrair y Pencampwyr yr wythnos hon.