Chris Coleman yn dathlu llwyddiant tim pel-droed Cymru yn erbyn Rwsia yn ystod Ewro 2016 (Llun: PA)
Cymru yw’r wlad sydd wedi cyrraedd y safle uchaf o wledydd Prydain yn y rhestr detholion FIFA ddiweddaraf a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’n golygu bod Cymru, sy’n 11 yn y byd, wedi codi uwch ben Lloegr, sy’n 13, am y tro cyntaf.

Cyhoeddwyd y rhestr ddiweddaraf yn dilyn llwyddiant anhygoel Cymru yn Ewro 2016 pan lwyddodd  tîm Chris Coleman i gyrraedd y rownd gynderfynol.

Mae Gogledd Iwerddon yn 28 yn y byd, Gweriniaeth Iwerddon yn 31 a’r Alban yn 50.

Llwyddodd Cymru i godi 15 safle yn y tabl ond mae’r pum tîm uchaf yn aros yr un fath gyda’r Ariannin, Gwlad Belg, Colombia, Yr Almaen a Chile yn parhau i arwain y blaen.