Bydd cefnogwyr Abertawe’n cael cyfle nos Fercher i weld yr amddiffynnwr o’r Iseldiroedd, Mike van der Hoorn yn chwarae i’r Elyrch.

Mae disgwyl iddo gael ei enwi yn y tîm ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Charlotte Independence, gyda’r gic gyntaf am 12.30yb.

Cafodd van der Hoorn, 23, ei arwyddo o Ajax bythefnos yn ôl ar gytundeb tair blynedd.

Ac mae’r amddiffynnwr yn edrych ymlaen at chweched tymor Abertawe yn yr Uwch Gynghrair.

“Alla i ddim aros i gael gwisgo crys Abertawe. Dw i wir yn edrych ymlaen at gynrychioli’r clwb am y tro cyntaf mewn sefyllfa gêm.

“Mae’r ymarfer wedi bod yn dda, ond does dim byd tebyg i chwarae mewn gêm. Dyna pam fy mod i wedi dod i Abertawe.”

Mae disgwyl i van der Hoorn chwarae am 45 munud wrth i’r rheolwr Francesco Guidolin roi cyfle i nifer o chwaraewyr ymylol yn y garfan.

Ond mae’n annhebygol y bydd Andre Ayew yn chwarae ar ôl cael seibiant hir yn sgil ei ymrwymiadau rhyngwladol.

Dyma’r tro cyntaf i un o dimau’r Uwch Gynghrair chwarae yn stadiwm Ramblewood ers iddyn nhw ymuno â’r United Soccer League yn 2014.

Bydd yr ornest yn gyfle i’r ‘Jack Army’ fynd ben-ben â ‘Jack’s Militia’, clybiau cefnogwyr y naill dîm a’r llall.