Hal Robson-Kanu (llun: CBDC)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Hull, Steve Bruce, wedi datgelu fod y clwb yn awyddus i arwyddo Hal Robson-Kanu.
Meddai Steve Bruce fod y clwb, sydd wedi ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair eleni, wedi trefnu cyfarfod gyda’r ymosodwr yn ystod y dyddiau nesaf.
Ond mae Steve Bruce wedi pwysleisio nad Hull yw’r unig glwb sy’n gobeithio arwyddo Hal Robson-Kanu cyn i’r tymor newydd ddechrau ar 13 Awst.
Byddai Hull yn gallu arwyddo Hal Robson-Kanu yn rhad ac am ddim wedi iddo adael Reading yr haf hwn cyn iddo serennu i dîm Cymru yn Ewro 2016.
Sgoriodd yr ymosodwr 27 oed ddwywaith yn y bencampwriaeth yn Ffrainc. Y cyntaf oedd y gôl fuddugol yn erbyn Slofacia a’r ail oedd ei ymdrech wych yn yr wyth olaf pan gurodd Cymru 3-1 yn erbyn Gwlad Belg.
Cafodd y wobr am gôl orau cystadleuaeth Ewro 2016 ym marn gwylwyr Match of the Day ei roi i Hal Robson-Kanu.
Ac mae’r gôl hanesyddol yn erbyn Gwlad Belg bellach wedi’i chynnwys ar restr fer y bleidlais swyddogol ar wefan UEFA, lle mae modd pleidleisio amdani.