Stadiwm Dinas Caerdydd oedd cartref tîm Cymru yn ystod ymgyrch ragbrofol Ewro 2016
Mae llwyddiant ymgyrch Ewro 2016 tîm pêl-droed Cymru, a’r twf enfawr mewn diddordeb yn y tîm o ganlyniad, wedi arwain at drafodaeth ynglŷn â’r posibilrwydd o weld Cymru’n chwarae gemau rhagbrofol yn Stadiwm y Principality yn y dyfodol.

Fe awgrymodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, y gallai’r tîm chwarae rhai o’u gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2018 yn Stadiwm y Principality ond mae’r rheolwr Chris Coleman wedi wfftio’r syniad.

Mae Cymru wedi chwarae yn Stadiwm y Principality, neu Stadiwn Mileniwm bryd hynny, yn y gorffennol ac roedd y stadiwm yn aml yn llawn yn ystod cyfnod cymharol lwyddiannus Mark Hughes fel rheolwr.

Er hynny, dirywiodd y gefnogaeth dros y blynyddoedd ac ers diwedd cyfnod Gary Speed fel rheolwr, ac yna cyfnod Chris Coleman wrth y llyw, mae’r tîm wedi ymgartrefu yn awyrgylch llai a mwy cartref  Stadiwm Dinas Caerdydd.

Y prif ddadl o blaid symud gemau i Stadiwn Principality ydy maint y stadiwm, gan roi cyfle i lawer mwy o bobl weld eu harwyr yn chwarae. Roedd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn dop ar gyfer gemau rhagbrofol olaf Ewro 2016, ac mae disgwyl i’r galw am docynnau fod yn llawer mwy diolch i’r diddordeb cynyddol yn y tîm.

Ar y llaw arall, roedd llawer yn cwyno am y diffyg awyrgylch yn y stadiwm mwy, gan ddadlau bod Stadiwm Dinas Caerdydd, sy’n dal 30,000, yn llawer gwell opsiwn.

Beth ydy’ch barn chi – symud gemau i Stadiwm Principality, aros yn y cartref newydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, neu ddefnyddio’r ddau leoliad yn achlysurol gan ddibynnu ar y gwrthwynebwyr a phwysigrwydd y gêm?


Pôl piniwn yn cau am 16:00 ddydd Gwener 15 Gorffennaf.