Gareth Bale
Gwlad Belg yw ffefrynnau’r bwcis i ennill y gêm fawr heno.

Fe fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg yn rowndiau wyth olaf Pencampwriaeth Ewrop yn Lille am wyth heno, gyda’r enillwyr yn sicrhau eu lle yn y rowndiau cyn-derfynol yn erbyn Portiwgal.

Mae pres y bwcis yn drwm ar Wlad Belg i ennill, gan eu gwneud yn ffefrynau clir i guro. Mae’r ods fodd bynnag yn llai ffafriol i Gymru, gyda chwmni betio Betfair yn rhoi 14-1 i Gymru ennill, gyda Chwmni Paddy Power yn rhoi ods o 4-1.

Eisoes mae Rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi cyfaddef mai Gwlad Belg yw’r ffefrynau clir.

Mae wedi dweud wrth ei chwaraewyr i gofleidio’r achlysur, gan fynnu eu bod eisiau mynd yn bellach yn y twrnameint yn hytrach na bod yn hapus i gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Her anferth

Dywedodd rheolwr Cymru: “Mae’n her anferth… rydym yn gwybod beth sydd i’w golli, ond rydym yn gwybod fod hyn yn haeddiannol ac mae’n lle da i fod.”