Ashley Williams yn iawn (Llun y Gymdeithas Bel-droed)
Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Ashley Williams wedi datgan ei fod yn holliach i arwain ei dîm yn erbyn Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Ewro 2016 yn Lille nos Wener.
Roedd amheuon am ffitrwydd yr amddiffynnwr canol ar ôl iddo anafu ei ysgwydd yn y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn rownd yr 16 olaf.
Yn ystod cynhadledd i’r wasg, dywedodd Williams: “Roedd yn rhoi tipyn o loes tua diwedd y gêm. Ond rhaid canmol y staff meddygol, maen nhw wedi gwneud jobyn wych arna’i.
“Rwy wedi cymryd rhan yn yr holl sesiynau ymarfer yr wythnos hon, mae’n dda iawn ac rwy’n sicr y bydd yn iawn yfory.”
‘Rhyddhad’
Dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman ei fod yntau’n gofidio am ei gapten yn dilyn yr anaf pan darodd Williams i mewn i’w gyd-chwaraewr Jonny Williams.
Ond roedd Coleman yn barod hefyd i ganmol ei staff am baratoi Williams ar gyfer yr ornest.
“Rwy’n teimlo rhyddhad. Fe ddywedais i 24 awr ar ôl y gêm mai dyna’r cyfnod pan fyddai angen i ni ganolbwyntio.
“Pe bai e wedi ymateb yn wael yna fe fyddai wedi bod yn anodd, ond mae’n newyddion gwych i ni ei fod e ar gael.”
‘Arweinydd’
Dywedodd Coleman fod angen “arweinwyr” yn ei dîm wrth iddyn nhw baratoi am eu gêm fwyaf ers rownd wyth olaf Cwpan y Byd yn 1958.
“Efallai ’mod i’n hen-ffasiwn ond mae angen arweinwyr yn eich tîm. Mae gyda ni stafell newid dda, cymysgedd da, ac Ash yw’r capten.
“Pan fo gyda chi stafell newid gref, mae angen cymeriad cryf arnoch chi i’w harwain, a dyna yw Ash.”
Ymhlith carfan Gwlad Belg, mae Thomas Vermaelen wedi’i wahardd am yr ornest, tra bod amheuon hefyd am ffitrwydd yr amddiffynnwr canol Jan Vertonghen ar ôl iddo anafu ei ffêr wrth ymarfer.