Chris Coleman (Llun: CBDC)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud ei fod yn disgwyl i dri o brif chwaraewyr y tîm fod yn ffit erbyn eu gêm gyntaf yn Ewro 2016 ddydd Sadwrn.
Dim ond mis yn ôl y torrodd Joe Ledley asgwrn yn ei goes yn chwarae dros ei glwb, ond fe allai nawr fod yn holliach i wynebu Slofacia yn Bordeaux ymhen pedwar diwrnod.
Roedd amheuon hefyd dros ffitrwydd y chwaraewr canol cae Joe Allen (pen-glin) a’r ymosodwr Hal Robson-Kanu (pigwrn) ar ôl i’r ddau hefyd fethu’r gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ddydd Sul.
Ond yn ôl Coleman mae’r tri wedi ymarfer yn iawn yng ngwersyll y tîm yn Dinard, Llydaw heddiw ac fe ddylen nhw fod yn iawn erbyn y penwythnos.
‘Edrych yn dda’
“Mae Joe wedi bod ar y cae, yn gwneud popeth mae’r chwaraewyr eraill wedi bod yn ei wneud,” meddai’r rheolwr wrth drafod ffitrwydd Ledley.
“Os cewch chi gic arno fe, mae’n codi cwestiynau. Ond mae e wedi gwneud union yr un sesiwn, yr un mor hir, popeth yr un peth â’r chwaraewyr eraill. Mae popeth yn iawn.”
Roedd y newyddion yr un mor bositif am Allen a Robson-Kanu, dau chwaraewr sydd hefyd wedi bod yn allweddol dros Gymru yn yr ymgyrch ragbrofol.
“Dydyn nhw heb chwarae ers tipyn, yn amlwg, ond yn gorfforol mae pethau’n edrych yn dda iddyn nhw,” ychwanegodd Coleman.
“Maen nhw’n ymarfer â’r garfan, rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw fod yno eto fory ac os yw popeth yn aros yr un peth fe fyddan nhw ar gael ar gyfer y penwythnos.”
Miloedd i deithio
Colli o 3-0 yn Sweden oedd hanes Cymru dros y penwythnos yn eu hunig gêm baratoadol cyn teithio i Ffrainc ar gyfer yr Ewros.
Ond chafodd Bale ddim mo’i ddefnyddio o’r cychwyn, gyda phrif seren Cymru’n dod oddi ar y fainc yn ystod yr ail hanner pan oedd y crysau cochion eisoes ddwy ar ei hôl hi.
Bydd Cymru’n wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp gan wybod y gallai hyd yn oed gorffen yn drydydd allan o bedwar fod yn ddigon i sicrhau lle yn y rowndiau nesaf.
Mae disgwyl degau ar filoedd o gefnogwyr Cymru yn Bordeaux ar gyfer gêm gyntaf y crysau cochion yn erbyn Slofacia ar 11 Mehefin, gyda’r gic gyntaf am 6yh amser lleol a 5yh nôl yng Nghymru.