Bydd cefnogwyr Cymru'n teithio yn eu miloedd i Ewro 2016 yr haf hwn (llun: Adam Davy/PA)
Mae criw o gefnogwyr pêl droed Cymru wedi cael eu siomi union wythnos cyn iddyn nhw deithio i Ewro 2016, ar ôl cael eu twyllo wrth geisio llogi cerbyd gwersylla.

Roedd y grŵp o 10 wedi llogi dau gerbyd gwersylla gan ddau gwmni gwahanol ar gyfer y daith i Ffrainc.

Ond ar ôl talu bron i £2,000 am gerbyd â lle i bedwar gan un o’r cwmnïau, ‘White Shark Hire’, cawsant wybod bod y cwmni wedi diflannu a bod nifer o gwsmeriaid wedi cael eu heffeithio.

Ar ôl i gannoedd o bobol rannu’u hapêl am gymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, fodd bynnag, mae’r grŵp bellach yn obeithiol y byddan nhw’n dod o hyd i gerbyd arall er mwyn gallu teithio i’r cyfandir.

Cannoedd yn rhannu

Roedd y criw wedi llogi’r cerbyd gwersylla drwy’r cwmni ar ôl dod o hyd iddynt ar wefan Leisure Rentals Direct, sy’n rhestru gwahanol gwmnïau sy’n llogi cerbydau o’r fath.

Ar ôl iddyn nhw gael clywed am y twyll e ryddhaodd y grŵp apêl ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn a oedd rhywun fyddai’n fodlon rhoi benthyg eu campyrfan nhw am bris teg os nad ydyn nhw’n ei ddefnyddio.

Cafodd eu negeseuon Twitter a Facebook eu rhannu cannoedd o weithiau, gyda dros 150 o bobol mewn llai na diwrnod yn ail-drydar neges gohebydd golwg360 Iolo Cheung, sydd yn un o’r grŵp.

Dydyn nhw ddim yn siŵr eto fodd bynnag a fyddan nhw, a’r cwsmeriaid eraill gafodd eu heffeithio, yn cael eu harian yn ôl eto.

Ffion Owen, un arall o’r cefnogwyr sydd yn bwriadu teithio i Ffrainc, fu’n esbonio trafferthion y grŵp: