Y disgwyl ydi y bydd Joe Allen yn ffit cyn y twrnament (llun:CBDC)
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod Adam Henley bellach wedi gadael gwersyll y tîm cenedlaethol gydag anaf, gan olygu y bydd yn methu Ewro 2016.
Dyma’r ail chwaraewr o fewn deuddydd i orfod dychwelyd adref o’r gwersyll ymarfer ym Mhortiwgal, a hynny ar ôl i Tom Bradshaw hefyd orfod gadael ar ôl brifo cyhyr croth ei goes.
Y gred ydi bod chwaraewr canol cae allweddol Cymru, Joe Allen, hefyd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd yn dilyn anaf i’w ben-glin y mae wedi’i gael ers diwedd y tymor domestig.
Ond er nad yw hi’n glir a fydd o’n ffit ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden y penwythnos nesaf, y disgwyl ydi y bydd o’n holliach mewn da bryd ar gyfer yr Ewros, sydd yn dechrau ymhen pythefnos.
Gwylio Bale
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman yn wynebu noson nerfus yfory gan fod prif seren y tîm Gareth Bale yn chwarae dros ei glwb yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.
Fe fydd Real Madrid yn herio Atletico Madrid am y goron Ewropeaidd, gyda’r disgwyl y bydd Bale wedyn yn ymuno â charfan Cymru ddechrau’r wythnos nesaf.
Ddydd Mawrth fe fydd Coleman yn enwi’i garfan derfynol o 23 fydd yn teithio i Sweden ac yna’n syth draw i Ffrainc ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop.
Yr unig amheuaeth fawr ar hyn o bryd ydi ffitrwydd Joe Ledley, sydd yn ceisio gwella mewn pryd i gael ei ddewis ar ôl cracio asgwrn yn ei goes lai na thair wythnos yn ôl.