Ched Evans
Fe fydd Ched Evans yn ymddangos yn y llys ym mis Hydref ar gyfer yr ail achos llys yn ymwneud â’r cyhuddiad o dreisio yn ei erbyn.
Cafodd y cyn-bêl-droediwr ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar yn 2012 ar ôl cael ei ganfod yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl.
Ond mynnodd y chwaraewr rhyngwladol ei fod yn ddieuog, a bod y ferch wedi cydsynio i gael rhyw ag ef. Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar yn 2014 fe ddechreuodd ymgais newydd i geisio clirio’i enw.
Ym mis Ebrill eleni fe benderfynodd Llys Apêl yn Llundain wyrdroi’r dyfarniad gwreiddiol, ar ôl i dîm cyfreithiol y cyn-chwaraewr gyflwyno tystiolaeth newydd.
Dim clwb
Methiant fu ymgais Ched Evans i ganfod clwb pêl-droed newydd fodd bynnag ar ôl cael ei ryddhau, gyda sawl un yn penderfynu peidio â’i arwyddo yn dilyn pwysau gan rai cefnogwyr a noddwyr.
Cyn iddo gael ei garcharu roedd Ched Evans wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Un i Sheffield United, un o’r clybiau ddangosodd ddiddordeb yn ei arwyddo wedi iddo gael ei ryddhau.
Roedd hefyd wedi ennill 13 cap dros Gymru, yr olaf o’r rheiny yn 2011, gan sgorio un gôl.
Disgwyl para pythefnos
Yn dilyn penderfyniad y Llys Apêl i wyrdroi’r dyfarniad, dywedodd yr erlyniad y byddan nhw’n gofyn am gynnal ail achos yn erbyn Ched Evans.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, fe ddywedodd y barnwr Nicola Davies y byddai’r gŵr 27 oed yn wynebu achos newydd ar 4 Hydref.
Yn y gwrandawiad byr fe ddywedodd Ched Evans ei fod yn pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad o dreisio yn ei erbyn.
Mae disgwyl i’r achos, fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, bara pythefnos.