Chris Coleman (Llun: CBDC)
Mae disgwyl i Gymru chwarae gornest gyfeillgar rhwng y garfan y penwythnos yma fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Ewro 2016 mewn ychydig dros bythefnos.
Dim ond un gêm gyfeillgar swyddogol y mae Chris Coleman wedi’i drefnu ar gyfer ei dîm cyn y twrnament, a hwnnw yn erbyn Sweden ar 5 Mehefin.
Ar y llaw arall mae Lloegr a Slofacia, fydd yn wynebu Cymru yng Ngrŵp B y gystadleuaeth, wedi trefnu tair yr un ac mae gan Rwsia hefyd ddwy gêm baratoadol.
Ond fe wnaeth y crysau cochion rywbeth tebyg llynedd, gan chwarae ei gilydd tu ôl i ddrysau caeedig yn hytrach na threfnu gêm swyddogol, cyn mynd ymlaen i drechu Gwlad Belg lai nag wythnos yn ddiweddarach.
Aros ar anafiadau
Mae’r garfan wedi bod yn treulio’r wythnos hon yn ymarfer ym Mhortiwgal, ac mae disgwyl i’r gêm fydd yn cael ei chwarae ar y penwythnos fod yn benllanw i’r ymarferion hynny.
Yna fe fydd y grŵp yn dychwelyd i Gymru cyn clywed ddydd Mawrth pwy fydd y 23 chwaraewr fydd wedi cael eu dewis ar gyfer carfan derfynol Cymru i fynd i Ffrainc.
Ar hyn o bryd mae 29 chwaraewr yn y garfan ymarfer estynedig, a hynny ddim yn cynnwys Gareth Bale sydd yn chwarae dros ei glwb yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr nos Sadwrn.
Dyw Tom Bradshaw ddim gyda’r garfan chwaith bellach, gan ei fod o wedi gorfod dychwelyd adref yn dilyn anaf i groth ei goes.
Yr unig amheuon eraill o ran anafiadau ar hyn o bryd ydi Joe Ledley a Danny Ward, ond mae’r ddau dal yn y gwersyll ymarfer ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth.
Sut allai'r ddau dîm edrych, gyda Chris Maxwell, George Williams, David Cotterill, Tom Lawrence a Wes Burns fel eilyddion