Joe Ledley, canol, a'r garfan yn dawnsio (Llun: CBDC)
Mae capten Cymru Ashley Williams wedi dweud y dylai Joe Ledley deithio gyda’r garfan i Ewro 2016 hyd yn oed os nad ydi o wedi gwella o’i anaf mewn pryd.

Fe graciodd Ledley asgwrn yn ei goes lai na thair wythnos yn ôl, ond mae bellach nôl yn ymarfer rhywfaint ac yn obeithiol o hyd o wella mewn pryd i fynd i Ffrainc.

Ac yn ôl Williams fe fydd hi’n chwith ar ei ôl os nad yw’n cael ei gynnwys yn y garfan o 23, ac felly’n penderfynu peidio teithio â nhw i’r twrnament.

“Mae Joe yn rhan enfawr o’r garfan. I mi, hyd yn oed os nad yw e yn y garfan, fe ddylai e dal fod o gwmpas y grŵp [yn Ffrainc],” meddai’r capten.

“Mae’n haeddu bod yna hyd yn oed os nad yw e’n mynd ar y cae. Mae’n bersonoliaeth fawr, fe yw’r diddanwr yn y garfan ac mae’n gwneud bywyd pawb yn haws wrth gracio jôcs a chwarae o gwmpas.”

Disgwyl iddo wella

Gyda’r garfan yn treulio tair wythnos gyda’i gilydd cyn i’r twrnament hyd yn oed gychwyn, ac yna o leiaf 10 diwrnod yn y gystadleuaeth ei hun, mae sicrhau bod digon o ddifyrrwch yn y gwersyll yn hollbwysig yn ôl yr amddiffynnwr.

“Mae’n bwysig cael hynny mewn grŵp pan ‘dych chi ffwrdd am sbel mewn gwestai,” meddai Ashley Williams.

“Dw i ddim yn gwybod beth mae’r rheolwr [Chris Coleman] yn ei feddwl, ond bydden i’n sicr yn mynd a fe [Ledley].”

Mae’r capten yn ffyddiog fodd bynnag y bydd y brwydrwr canol cae barfog yn gwella mewn pryd ar gyfer y gystadleuaeth, ar ôl ei wylio’n ymarfer yr wythnos hon.

“Dw i ddim yn physio, ond o weld beth mae’n ei wneud yn barod, bydden i’n disgwyl iddo fe’i gwneud hi,” ychwanegodd Williams.