A fydd gan Giggs ddyfodol yn Old Trafford o dan y rheolwr newydd? (llun:soccer.ru/CC3.0)
Mae Manchester United wedi diswyddo eu rheolwr, Louis van Gaal, gan olygu ansicrwydd am ddyfodol y Cymro Ryan Giggs gyda’r clwb.
Ar ôl tymor siomedig yn Old Trafford mae’r dyfalu’n cynyddu mai Jose Mourinho, cyn-reolwr Chelsea, fydd yn dod yn lle’r gŵr o’r Iseldiroedd.
Ond mae hynny wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol Ryan Giggs fel is-reolwr y clwb, gydag ansicrwydd os bydd yn aros neu beidio dan arweinyddiaeth Mourinho.
Mae Giggs ei hun hefyd wedi cael ei grybwyll fel rheolwr posib ar gyfer y clwb rywbryd yn y dyfodol.
Er mai Manchester United oedd enillwyr y Cwpan yr FA yn Wembley ddydd Sadwrn, roedd cysgod dros y dathlu wrth yn dilyn yr adroddiadau fod y clwb ar fin cael gwared â’u rheolwr.