Jess Fishlock (Llun: David Rawcliffe/Propaganda)
Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi enwi’u carfan ar gyfer eu gêm ragbrofol fawr yn erbyn Norwy fis nesaf sydd yn cynnwys eu prif seren Jess Fishlock.
Bydd carfan Jayne Ludlow yn croesawu’r tîm sydd ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2017 i Gasnewydd ar 7 Mehefin, a hynny ar ôl colli o 4-0 oddi cartref i’r gwrthwynebwyr hynny llynedd.
Tair gêm sydd gan Gymru’n weddill, ac mae’n rhaid iddyn nhw ennill pob un ohonyn nhw yn ogystal â gobeithio y bydd Awstria’n colli o leiaf unwaith os ydyn nhw am gipio’r ail safle.
Byddai gorffen yn ail yn y grŵp yn golygu eu bod nhw un ai’n cyrraedd y twrnament terfynol, neu’n wynebu gêm ail gyfle er mwyn ceisio cyrraedd y gystadleuaeth yn yr Iseldiroedd.
Carfan Merched Cymru
Jo Price (dim clwb), Claire Skinner (Cwmbran Celtic)
Natasha Harding (Lerpwl), Loren Dykes (Bryste), Rhiannon Roberts (Doncaster Rovers Belles), Sophie Ingle (Lerpwl), Gemma Evans (Caerdydd), Kylie Davies (Reading), Kylie Nolan (Caerdydd)
Jess Fishlock (Seattle Reign), Charlie Escort (Reading), Rachel Rowe (Reading), Angharad James (Notts County), Nadia Lawrence (Yeovil Town), Melissa Fletcher (Reading), Hayley Ladd (Bryste)
Kayleigh Green (Yeovil Town), Helen Ward (Reading), Chloe Chivers (Cwmbran Celtic), Cori Williams (Caerdydd)