Fe fydd Abertawe’n gobeithio gorffen gyda phumed buddugoliaeth o’r bron yn yr Uwch Gynghrair wrth iddyn nhw groesawu Man City i Stadiwm Liberty ar ddiwrnod ola’r tymor.
Tra bod rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw yn y ddinas am ddwy flynedd ychwanegol, hon fydd gêm olaf rheolwr Man City, Manuel Pellegrini wrth y llyw.
Mae’r Elyrch yn safle rhif 11 yn y tabl yn dilyn buddugoliaethau o’r bron yn erbyn Lerpwl a West Ham.
Fe fyddai buddugoliaeth i Man City, yn y cyfamser, yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, a hynny o dan arweiniad Pep Guardiola o Gatalwnia.
Dydy Abertawe ddim wedi curo Man City yn eu pum gêm diwethaf yn yr Uwch Gynghrair, ac roedd yr ymwelwyr yn fuddugol o 4-2 y tro diwethaf iddyn nhw gwrdd fis Mai y llynedd.
Chwe buddugoliaeth ac un gêm gyfartal yw record yr ymwelwyr yn erbyn Abertawe yn eu saith gêm flaenorol.
Ond mae llygedyn o obaith i Abertawe o edrych ar record oddi cartref Man City ar ddiwrnod ola’r tymhorau blaenorol, gydag un fuddugoliaeth yn unig dros y chwe blynedd diwethaf.
Dywedodd rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin fod sicrhau 40 pwynt y tymor nesa’n “flaenoriaeth”, ac fe ychwanegodd ei bod yn “bwysig peidio colli hon, na cholli ein hunaniaeth”.
Ond fe ddywedodd y byddai’r Elyrch yn dysgu o’u camgymeriadau’r tymor hwn, lle mae perfformiadau gwael wedi arwain at ddiswyddo’i ragflaenydd Garry Monk.
“Yn y byd pêl-droedd, dydy hi ddim bob amser yn hawdd mynd lan, lan, lan. Mae’n bwysig cael tymor sydd ychydig yn gymhleth er mwyn deall a dysgu pethau newydd.”
Ar drothwy ei gêm olaf, dywedodd rheolwr Man City, Manuel Pellegrini: “Yn ystod y tri thymor, mae’r cefnogwyr bob amser wedi dweud wrtha i eu bod nhw’n mwynhau ein gemau ni.
“Arddull yw’r cyfan ac i fi, mae’n bwysig bod yn brif sgorwyr y tymor am dri thymor, bod yng Nghynghrair y Pencampwyr bob tro ac ennill tri theitl.”