Fe fydd Clwb Criced Morgannwg yn ceisio’u buddugoliaeth gynta’r tymor hwn wrth iddyn nhw deithio i Fryste ddydd Sul i herio Swydd Gaerloyw yn ail adran y Bencampwriaeth.
Mae’r batiwr ifanc Nick Selman wedi colli ei le yng ngharfan 12 dyn Morgannwg wrth i’r prif hyfforddwr Robert Croft ystyried ei opsiynau ymhlith y bowlwyr.
Mae Swydd Gaerloyw’n ddi-guro yn y Bencampwriaeth y tymor hwn yn dilyn tair gornest gyfartal.
Dywedodd Robert Croft: “Mae Swydd Gaerloyw’n dîm da. Rwy’n credu eu bod nhw wedi defnyddio’r label o fod y gwannaf yn dda iawn, ond mae hynny wedi mynd nawr, mae pobol yn gwybod fod Swydd Gaerloyw’n dîm da.
“Roedden nhw’n cael budd o’r label ac roedd pobol yn eu dibrisio nhw, ond nid dyna fyddwn ni’n ei wneud.
“Mae eu hyfforddwyr Richard Dawson ac Ian Harvey yn gweithio’n galed ac fe fyddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i gael buddugoliaeth.”
Mae Morgannwg wedi colli dwy gêm ac wedi cael dwy gêm gyfartal hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth, ond mae Croft yn hyderus y gall ei dîm sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yr wythnos hon.
“Rwy’n credu yn y bechgyn hyn. Maen nhw’n gwneud pethau’n iawn, maen nhw’n ymarfer yn galed ac ry’n ni’n gobeithio gyda’r agwedd o weithio’n galed a rhoi sylw i fanylion y gallwn ni wyrdroi pethau.”
Carfan Swydd Gaerloyw: C Dent, C Bancroft, I Cockbain, G Roderick (capten), H Marshall, G Hankins, K Noema-Barnett, J Taylor, J Shaw, D Payne, C Miles, T Hampton, G van Buuren
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Cooke, A Donald, M Hogan, D Lloyd, C Meschede, H Podmore, A Salter, T van der Gugten, G Wagg, M Wallace