Joe Ledley
Mae chwaraewr canol cae Cymru Joe Ledley bron yn sicr o fethu Ewro 2016 ar ôl torri asgwrn yn ei goes, yn ôl adroddiadau.
Mae ei glwb Crystal Palace wedi cadarnhau fod ganddo grac yn asgwrn y ffibwla, gan olygu y bydd yn methu ffeinal Cwpan FA Lloegr ymhen wythnos a hanner.
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud bod “gobaith” o hyd y bydd y chwaraewr 29 oed yn gwella cyn Ewro 2016.
Cafodd Ledley ei enwi yng ngharfan estynedig Cymru o 29 fydd yn teithio i wersyll ymarfer ym Mhortiwgal cyn yr Ewros er ei fod wedi anafu.
Bwlch i’w lenwi
Y sôn i ddechrau oedd ei fod wedi brifo’i sawdl, ond byddai torri asgwrn yn golygu o leiaf tair i bedair wythnos o wella fyddai’n golygu na fyddai ganddo lawer o amser cyn i’r twrnament yn Ffrainc ddechrau.
Byddai colli Ledley yn ergyd fawr i Chris Coleman a’r garfan, gan fod y chwaraewr canol cae barfog yn rhan allweddol o’r tîm yn ystod yr ymgyrch ragbrofol.
Mae hefyd yn un o aelodau hŷn y garfan ac yn dod â phrofiad yn ogystal ag ychydig o hiwmor i’r ystafell newid, gyda’i ddawnsio hefyd yn adnabyddus i gefnogwyr Cymru bellach.
Petai Ledley yn methu’r Ewros mae’n debygol y byddai Coleman yn dewis o Andy King, David Vaughan, Dave Edwards neu Emyr Huws i lenwi’r bwlch yng nghanol cae ochr yn ochr â Joe Allen.