Hannah Mills a Saskia Clark, (Llun: Dan Towers)
Wrth edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro’r haf hwn, mae Bwrdd Llywodraethol Hwylio Cymru (RYA) yn falch i gyhoeddi y bydd dau o Gymru’n cystadlu yn y cystadlaethau hwylio.
Mae Hannah Mills o Gaerdydd eisoes wedi cystadlu a chipio’r fedal arian yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, ond dyma’r tro cyntaf i Chris Grube o’r Bala gael ei ddewis i dîm Prydain Fawr.
Cafodd ei ddewis wedi i Elliot Willis orfod tynnu allan oherwydd salwch diweddar, ac meddai Chris Grube: “Mae’n amlwg fy mod wedi cael fy newis oherwydd anffawd Elliot, ond dy’n ni’n mynd i wneud ein gorau, a gobeithio ennill medal a gwneud Elliot a’n hunain yn falch.
“Er ei fod yn rhywbeth dw i wedi bod yn anelu ato am ddeng mlynedd a mwy, mae’n gyfle gwych i gynrychioli fy ngwlad a dw i’n hynod o falch i wneud hynny.”
‘Ysbrydoli eraill’
Fe fydd Chris Grube yn cystadlu gyda’i bartner hwylio Luke Patience, a Hannah Mills yn cystadlu gyda’i phartner hwylio Saskia Clark.
Yn ôl Phil Braden, Prif Weithredwr RYA Cymru, mae’n gobeithio y bydd campau’r ddau yn ysbrydoli eraill yng Nghymru i ymhél â hwylio.
“Dy’n ni’n edrych ymlaen at weld y ddau’n cymryd rhan yn Rio yr haf hwn,” meddai “a bydd digwyddiadau cyffrous ar draws gogledd a de Cymru yn ystod y Gemau Olympaidd i annog pobol i ddilyn y gamp.”
Ian Baker o Benarth oedd y diwethaf i ennill medal arian mewn hwylio yng ngemau Olympaidd Sydney yn 2000 tan lwyddiant Hannah Mills yn 2012.