Hal Robson-Kanu (Llun: CBDC)
Mae ymosodwr Cymru Hal Robson-Kanu wedi dweud y bydd Cymru’n gallu galw’i hun yn “genedl bêl-droed” unwaith eto pan fydd y tîm yn cystadlu yn Ewro 2016 eleni.

Mis yn union sydd i fynd bellach nes y bydd y twrnament yn Ffrainc yn dechrau, ac ar ail ddiwrnod y gystadleuaeth fe fydd Cymru’n wynebu Slofacia yn eu gêm grŵp agoriadol.

Ddoe fe enwodd y rheolwr Chris Coleman garfan estynedig o 29 chwaraewr ar gyfer eu gwersyll ymarfer ym Mhortiwgal, ond fe fydd yn rhaid i’r garfan derfynol gael ei chwtogi i 23.

Ac mae cyn-seren Cymru Ian Rush wedi dweud y bydd gweld Cymru’n cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol uchaf yn hwb i geisio dod o hyd i’r Gareth Bale neu’r Aaron Ramsey nesaf.

Cystadlu â rygbi

Fe gyfaddefodd Robson-Kanu fod pêl-droed yn aml wedi gorfod ildio’r sylw i rygbi yng Nghymru yn y gorffennol – ond bwrlwm y bêl gron oedd ei phiau hi’r haf hwn.

“Dyw pêl-droed ddim wedi cael ei hystyried fel y brif gamp yng Nghymru, fel arfer rygbi yw e,” meddai’r ymosodwr wrth lansio ymgyrch #GetIN Vauxhall.

“Ond gobeithio gyda’n perfformiadau ni y gallwn ni ddweud o’r diwedd ein bod ni’n genedl bêl-droed unwaith eto.

“Mae’n deimlad grêt, popeth rydyn ni wedi gweithio tuag ato dros y tair i bedair blynedd ddiwethaf. Mae’r cefnogwyr wedi bod yn rhan fawr o hynny ac rydyn ni wedi gwneud hyn er eu mwyn nhw mewn gwirionedd.”

Y genhedlaeth nesaf

Fe dreuliodd sawl un o garfan bresennol Cymru flynyddoedd gyda’r timau ieuenctid cyn sefydlu’i hunain yn y tîm cyntaf.

Ac yn ôl Ian Rush, sydd yn Gyfarwyddwr Perfformiad Elît gydag Ymddiriedolaeth Cymru, fe fydd yr Ewros eleni yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i geisio cyrraedd yr un uchelfannau.

“Maen nhw’n edrych i fyny a dweud eu bod nhw eisiau bod fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac fe fydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu mwy o chwaraewyr fel hynny,” meddai Rush, sydd wedi sgorio mwy o goliau nag unrhyw un dros Gymru.

“Mae gennym ni’r dalent a’r ysbryd ac rydyn ni am weld hynny’n parhau. Dw i’n edrych tuag at Gwpan y Byd nawr, nid dim ond yr Ewros.”