Fydd Leigh Halfpenny ddim yn wynebu'r Crysau Duon ym mis Mehefin (llun: David Davies/PA)
Dyw Leigh Halfpenny ddim wedi cael ei gynnwys yng ngharfan rygbi Cymru ar gyfer eu taith i Seland Newydd dros yr haf.
Roedd clwb Halfpenny, Toulon, wedi bygwth peidio â thalu’r chwaraewr os oedd e’n teithio gyda’r tîm cenedlaethol fis nesaf ond mae’n debyg bod anaf i ben-glin y cefnwr hefyd yn ffactor yn y penderfyniad i’w adael ar ôl.
Mae Alex Cuthbert a Justin Tipuric hefyd ymysg y rheiny fydd yn methu’r daith, Tipuric oherwydd ei fod yn parhau i wella o gyfergyd.
Ond mae chwaraewyr fel Scott Williams a Liam Williams yn dychwelyd i’r garfan genedlaethol yn dilyn anafiadau diweddar.
Sam Warburton fydd yn arwain y tîm fel capten unwaith eto, a hynny wrth iddyn nhw chwilio am fuddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd.
Mae Cymru eisoes wedi trefnu gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar 29 Mai cyn iddyn nhw deithio i hemisffer y de ar gyfer y profion ym mis Mehefin.
Bydd tîm y Llewod hefyd yn teithio i Seland Newydd y flwyddyn nesaf, ac felly fe fydd y gemau’n gyfle i ambell un o’r chwarewyr geisio creu argraff cyn hynny.
Carfan Cymru
Blaenwyr: Rob Evans (Scarlets), Tomas Francis (Caerwysg), Paul James (Gweilch) Gethin Jenkins (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Kristian Dacey (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing Metro), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau), James King (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Josh Turnbull (Gleision), Sam Warburton (Gleision, capten).
Olwyr: Gareth Davies (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Gareth Anscombe (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Priestland (Caerfaddon), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Tyler Morgan (Dreigiau), Jamie Roberts (Harlequins), Scott Williams (Scarlets), Hallam Amos (Dreigiau), Matthew Morgan (Bryste), Tom James (Gleision), George North (Northampton), Eli Walker (Gweilch), Liam Williams (Scarlets)
Gemau Cymru
Lloegr v Cymru, dydd Sul 29 Mai (Twickenham)
Seland Newydd v Cymru, dydd Sadwrn 11 Mehefin (Auckland)
Chiefs v Cymru, dydd Mawrth 14 Mehefin (Hamilton)
Seland Newydd v Cymru, dydd Sadwrn 18 Mehefin (Wellington)
Seland Newydd v Cymru, dydd Sadwrn 25 Mehefin (Dunedin)