Airbus 0–2 Y Seintiau Newydd
Y Seintiau Newydd yw pencampwyr Cwpan Cymru wedi iddynt drechu Airbus yn y rownd derfynol ar y Cae Ras yn Wrecsam brynhawn Llun.
Rhoddodd Ryan Brobbel y deiliaid ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Scott Quigley ddyblu’r fantais wedi’r egwyl.
Hanner Cyntaf
Airbus a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, yn mwynhau digon o’r tir a’r meddiant ac yn ceisio achosi problemau i’r Seintiau o giciau gosod.
Ychydig iawn o gyfleodd clir a grewyd ganddynt serch hynny a’r Seintiau a gafodd y gôl agoriadol yn erbyn llif y chwarae ddeuddeg munud cyn yr egwyl.
Peniodd Aeron Edwards gic gornel Chris Seargeant i gyfeiriad y gôl a llwyddodd Brobbel i droi ac ergydio mewn un symudiad yn y cwrt chwech gan anelu’r bêl rhwng coesau James Coates ac i gefn y rhwyd.
Ail Hanner
Roedd yn rhaid i Airbus chwilio am gôl yn yr ail hanner ac roedd hynny’n gadael bylchau anochel yn y cefn.
Doedd dim syndod mai o wrthymosodiad y dyblodd y Seintiau eu mantais bum munud wedi’r egwyl felly, Aeron Edwards yn rhedeg i lawr canol y cae ac ergyd Adrian Cieslewicz yn gwyro’n garedig i Quigley am gôl syml.
Bu rhaid i Coates wneud dau arbediad da yn fuan wedi hynny i gadw ei dîm yn y gêm, yn atal Cieslewicz i ddechrau ac yna Quigley.
Roedd Airbus yn curo ar y drws yn y pen arall o hyd ond yn anffodus iddynt hwy, disgynodd yr un cyfle gwirioneddol i’r amddiffynnwr canol, Ian Kearney, ac er iddo daro’r targed fe lwyddodd Paul Harrison i arbed.
Cafodd Quigley gyfle gwych i gau pen y mwdl ar bethau chwarter awr o’r diwedd ond anelodd dros y trawst o wyth llath.
Roedd dwy gôl yn ddigon i’r Seintiau yn y diwedd pryn bynnag wrth i bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Word godi Cwpan Cymru am y trydydd tymor yn olynol.
Mae’r canlyniad yn golygu y bydd yn rhaid i Airbus yn awr chwarae gemau ail gyfle’r gynghrair i frwydro am le yn Ewrop y tymor nesaf.
.
Airbus
Tîm: Coates, Owens, Kearney, Pearson, Murphy, Williams, Owen (Barrow 61’), McGinn (Jackson 60’), Gray, Budrys, Wignall
Cerdyn Melyn: Kearney 53’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Rawlinson, K. Edwards, Marriottt, Seargeant (Baker 66’), A. Edwards, Brobbel, Williams (Wilde 46’), Cieslewicz, Quigley
Goliau: Brobbel 33’, Quigley 51’
.
Torf: 1,402