Abertawe 3–1 Lerpwl
Cafwyd cadarnhad y bydd Abertawe’n aros yn yr Uwch Gynghrair diolch i fuddugoliaeth yn erbyn Lerpwl ar y Liberty brynhawn Sul.
Rhywdodd André Ayew ddwy waith o bobtu gôl wych gan Jack Cork wrth i’r Elyrch ennill yn gyfforddus.
Rheolodd Abertawe’r ugain munud cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen pan beniodd Ayew gic gornel Gylfi Sigurdsson i gefn y rhwyd.
Gwnaeth y Cymro yn y gôl i Lerpwl, Danny Ward, ddau arbediad da i atal Cork a Jefferson Montero rhag dyblu’r fantais a pheniodd Jordi Amat gyfle da dros y trawst hefyd.
Doedd dim y gallai Ward ei wneud serch hynny pan lwyddodd Cork i rwydo’r ail ddeuddeg munud cyn yr egwyl, y chwaraewr canol cae yn crymanu ergyd wych tu hwnt i gyrraedd y golwr o bum llath ar hugain.
Roedd Lerpwl fymryn yn well wedi’r egwyl a rhoddodd peniad Christian Benteke o gic gornel Sheyi Ojo lygedyn o obaith iddynt wedi 65 munud.
Diflannodd y gobaith hwnnw wrth i Ayew adfer dwy gôl o fantais y tîm cartref ddau funud yn ddiweddarach, yn canfod y gornel isaf yn dilyn amddiffyn gwael gan y Cochion.
Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl ac yn golygu ei bod hi bellach yn fathemategol amhosib iddynt ddisgyn.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Amat, Williams, Taylor, Cork, Britton (Fulton 90’), Routledge, Sigurdsson, Montero (Naughton 73’), Ayew
Goliau: Ayew 20’, 67’ Cork 33’
Cardiau Melyn: Cork 41’, Rangel 74’
.
Lerpwl
Tîm: Ward, Clyne, Lovren, Skertel, Smith, Ojo, Chirivella (Lucas 45’), Stewart, Ibe (Brannagan 80’), Coutinho (Benteke 45’), Sturridge
Gôl: Benteke 65’
Cardiau Melyn: Smith 27’, 76’, Clyne 39’, Skertel 77’
Cerdyn Coch: Smith 76’
.
Torf: 20,972