Y crys rygbi a wisgwyd yn 1894 (llun: Rogers Jones/Gwifren PA)
Mae disgwyl y gall y crys rygbi rhyngwladol hynaf erioed i fynd ar werth godi cymaint â £20,000 mewn arwerthiant ym Mhenarth yr wythnos nesaf.

Cafodd y crys ei wisgo gan Fred Hutchinson pan chwaraeodd dros Gymru am y tro cyntaf yn 1894.

Enillodd y gweithiwr rheilffordd a fu’n gefnwr i Gastell Nedd dri chap i gyd, ac mae’r rheini hefyd ymysg y pethau a fydd yn mynd o dan y morthwyl yn yr arwerthiant.

“Mae’r crys mewn cyflwr perffaith,” meddai Ben Rogers o gwmni arwerthwyr Rogers Jones.

“Mae wedi cael ei fframio yn ddiweddar ac mae’r lliw cael para’n dda ar y crys a’r bathodyn.

“Mae’n eitem anhygoel a’r crys rygbi ryngwladol hynaf erioed i fynd ar werth yn gyhoeddus.”

Mae’r crys yn cael ei werthu gan or-or ŵyr Fred Hutchinson, a aned y diwrnod y farw ei hen hen ewythr ac a gafodd ei enwi ar ei ôl.