Caerlŷr 4–0 Abertawe                                                                       

Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt ymweld â Stadiwm King Power i wynebu Caerlŷr yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul.

Roedd yr Elyrch yn gobeithio rhoi cnoc i obeithion Caerlŷr o ennill y gynghrair, ond mae’r Llwynogod gam yn nes at wneud hynny ar ôl chwalu’r Cymry o bedair gôl i ddim.

Dechreuodd Abertawe yn o lew ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi i Riyad Mahrez roi’r tîm cartref ar y blaen wedi deg munud yn dilyn camgymeriad annodweddiadol gan Ashley Williams yn y cefn.

Dyblodd Leonardo Ulloa y fantais wedi hanner awr gyda pheniad da o gic rydd Danny Drinkwater, ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ar yr awr wrth i Ulloa rwydo ei ail ef a thrydedd ei dîm, yn manteisio ar amddiffyn gwael Abertawe a gwaith da Jeffrey Schlupp ar yr asgell.

Daeth chwaraewr canol cae Cymru, Andy King i’r cae wedi hynny a chwaraeodd yntau ei ran wrth i Gaerlŷr sgorio pedwaredd. Creodd King gyfle i Demarai Gray ac er i’w gynnig yntau gael ei arbed roedd Marc Albrighton wrth law i rwydo.

Mae’r canlyniad yn rhoi Caerlŷr wyth pwynt yn glir ar y brig gyda dim ond tair gêm ar ôl, ond mae Abertawe ar y llaw arall yn llithro i’r pymthegfed safle.

.

Caerlŷr

Tîm: Schmeichel, Simpson, Morgan, Huth, Fuchs, Mahrez, Kante, Drinkwater, Schlupp (Albrighton 82’), Ulloa (King 79’), Okasaki (Gray 73’)

Goliau: Mahrez 10’, Ulloa 30’, 60’, Albrighton 85’

Cerdyn Melyn: Huth 81’

.

Abertawe

Tîm: Fbianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Britton, Ayew, Cork, Fer (Paloschi 45’), Routledge (Montero 45’), Sigurdsson (Ki Sung-yueng 76’)

Cardiau Melyn: Fernandez 63’, Williams 73’

.

Torf: 31,962